Acts 27

Paul yn hwylio i Rufain

1Dyma nhw'n penderfynu ein bod i hwylio i'r Eidal. Cafodd Paul a nifer o garcharorion eraill eu rhoi yng ngofal swyddog milwrol o'r enw Jwlius – aelod o'r Gatrawd Ymerodrol. 2Dyma ni'n mynd ar fwrdd llong o Adramitiwm oedd ar fin mynd i nifer o borthladdoedd yn Asia, a hwylio allan i'r môr. Roedd Aristarchus, o ddinas Thesalonica yn Macedonia, gyda ni.

3Y diwrnod wedyn, wedi i ni lanio yn Sidon, dyma Jwlius, yn garedig iawn, yn caniatáu i Paul fynd i weld ei ffrindiau iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen. 4Dyma ni'n gadael porthladd Sidon, ond roedd y gwynt yn ein herbyn ni, a bu'n rhaid i ni hwylio o gwmpas ochr gysgodol ynys Cyprus. 5Ar ôl croesi'r môr mawr gyferbyn ag arfordir Cilicia a Pamffilia, dyma ni'n glanio yn Myra yn Lycia. 6Yno daeth Jwlius o hyd i long o Alecsandria oedd ar ei ffordd i'r Eidal, a'n rhoi ni ar fwrdd honno. 7Roedd hi'n fordaith araf iawn am ddyddiau lawer a cawson ni drafferth mawr i gyrraedd Cnidus. Ond roedd y gwynt yn rhy gryf i ni fynd ddim pellach, a dyma ni'n cael ein gorfodi i droi i'r de tua Creta, a hwylio yng nghysgod yr ynys o gwmpas pentir Salmone. 8Cawson ni gryn drafferth eto i ddilyn arfordir deheuol yr ynys, ond llwyddo o'r diwedd i gyrraedd porthladd yr Hafan Deg sydd wrth ymyl tref o'r enw Lasaia. 9Roedden ni wedi colli lot o amser, ac roedd hi'n beryglus i hwylio yr adeg honno o'r flwyddyn (Roedd hi'n ddechrau Hydref, a Dydd y Cymod eisoes wedi mynd heibio
27:9 Groeg roedd yr ympryd eisoes wedi mynd heibio. Cyfeiriad at Ddydd y Cymod  (Yom Kippur), sy'n cael ei ddathlu tua diwedd Medi neu ddechrau Hydref.
). Ceisiodd Paul eu rhybuddio nhw o'r peryglon,
10“Gyfeillion, trychineb fydd pen draw'r fordaith yma os byddwn ni'n mynd yn ein blaenau. Byddwch chi'n colli'r llong â'i chargo, heb sôn am beryglu'n bywydau ni sy'n hwylio arni hefyd.” 11Ond yn lle gwrando ar Paul, dyma Jwlius yn dilyn cyngor y peilot a chapten y llong. 12Roedd yr Hafan Deg yn borthladd agored, a ddim yn addas iawn i aros yno dros y gaeaf. Felly dyma'r mwyafrif yn penderfynu mai ceisio hwylio yn ein blaenau oedd orau. Y gobaith oedd cyrraedd lle o'r enw Phenics ar ben gorllewinol yr ynys, ac aros yno dros y gaeaf. Roedd porthladd Phenics yn wynebu'r de-orllewin a'r gogledd-orllewin.

Y storm

13Pan ddechreuodd awel ysgafn chwythu o gyfeiriad y de, roedden nhw'n meddwl y byddai popeth yn iawn; felly dyma godi angor a dechrau hwylio ar hyd arfordir Creta. 14Ond yn sydyn dyma gorwynt cryf (sef yr Ewraculon) yn chwythu i lawr dros yr ynys o'r gogledd-ddwyrain. 15Cafodd y llong ei dal yn y storm. Roedd hi'n amhosib hwylio yn erbyn y gwynt, felly dyma roi i fyny a cawson ni ein cario i ffwrdd ganddo. 16Bu bron i ni golli cwch glanio'r llong pan oedden ni'n pasio heibio ynys fach Cawda. 17Ar ôl i'r dynion lwyddo i'w chodi ar fwrdd y llong, dyma nhw'n rhoi rhaffau o dan gorff y llong rhag iddi ddryllio ar farrau tywod Syrtis. Wedyn dyma nhw'n gollwng yr angor môr ac yn gadael i'r llong gael ei gyrru gan y gwynt. 18Roedd y llong wedi ei churo cymaint gan y storm nes iddyn nhw orfod dechrau taflu'r cargo i'r môr y diwrnod wedyn. 19A'r diwrnod ar ôl hynny dyma nhw hyd yn oed yn dechrau taflu tacl y llong i'r môr! 20Dyma'r storm yn para'n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na'r sêr. Erbyn hynny roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni.

21Doedd neb ag awydd bwyta ers dyddiau lawer. Yna dyma Paul yn y diwedd yn sefyll o flaen pawb, ac meddai: “Dylech chi fod wedi gwrando arna i a pheidio hwylio o ynys Creta; byddech chi wedi arbed y golled yma i gyd wedyn. 22Ond codwch eich calonnau – does neb yn mynd i farw, er ein bod ni'n mynd i golli'r llong. 23Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i'n ei wasanaethu. 24A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae'n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw'n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’ 25Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i. 26Ond mae'r llong yn mynd i gael ei dryllio ar greigiau rhyw ynys neu'i gilydd.”

Y llongddrylliad

27Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i'r storm ddechrau, ac roedden ni'n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria.
27:27 Mae Môr Adria yng nghanol Môr y Canoldir. Nid Môr yr Adriatig ydy hwn.
Tua hanner nos dyma'r morwyr yn synhwyro ein bod ni'n agos at dir.
28Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr
27:28 Groeg 20 gwryd … 15 gwryd.
.
29Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd. 30Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr. 31Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.” 32Felly dyma'r milwyr yn torri'r rhaffau oedd yn dal y cwch glanio a gadael iddi ddisgyn i'r dŵr.

33Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos. 34Dw i'n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth – bydd ei angen arnoch i ddod trwy hyn. Ond gaiff neb niwed.” 35Cymerodd Paul dorth o fara, diolch i Dduw o'u blaenau nhw i gyd, ac yna ei thorri a dechrau bwyta. 36Roedd wedi codi calon pawb, a dyma ni i gyd yn cymryd bwyd. 37(Roedd 276 ohonon ni ar y llong i gyd). 38Ar ôl cael digon i'w fwyta dyma'r criw yn mynd ati i ysgafnhau'r llong drwy daflu'r cargo o wenith i'r môr.

39Pan ddaeth hi'n olau dydd, doedd neb yn nabod y tir o'n blaenau. Roedd bae gyda traeth o dywod i'w weld a dyma nhw'n penderfynu ceisio cael y llong i dirio ar y traeth hwnnw. 40Felly dyma nhw'n torri'r angorau'n rhydd a'u gadael yn y môr, a'r un pryd yn datod y rhaffau oedd yn dal y llyw. Wedyn dyma nhw'n agor yr hwyl flaen i ddal y gwynt ac anelu am y traeth. 41Ond dyma'r llong yn taro banc tywod, ac roedd tu blaen y llong yn hollol sownd ac yn gwrthod dod y rhydd. A dyma'r starn yn dechrau dryllio wrth i'r tonnau gwyllt hyrddio yn erbyn y llong. 42Roedd y milwyr eisiau lladd y carcharorion rhag iddyn nhw nofio i ffwrdd a dianc, 43ond rhwystrodd y pennaeth nhw rhag gwneud hynny am ei fod eisiau i Paul gael byw. Wedyn rhoddodd orchymyn i'r rhai oedd yn gallu nofio i neidio i'r dŵr a cheisio cyrraedd y lan. 44Wedyn roedd pawb arall i geisio dal gafael mewn planciau neu ddarnau eraill o'r llong. A dyna sut gyrhaeddodd pawb y tir yn saff!

Copyright information for CYM